Newyddion a Digwyddiadau

Cynhadledd: Sain mewn Cyfieithiad Ehangach: Barddoniaeth mewn Cyfieithiad Ehangach III

4 - 6 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor
Cymru

Dyddiad cau ar gyfer crynodebau: 2 Ionawr 2018

Prif siaradwyr a pherfformiwyr

Caroline Bergvall, artist, awdur a pherfformiwr
Lawrence Venuti, damcaniaethwr cyfieithu, athro yn Temple University
Andrew Lewis, cyfansoddwr, athro ym Mhrifysgol Bangor

Trefnwyr y gynhadledd

Dr Jeff Hilson (Roehampton University) a Dr Zoë Skoulding (Prifysgol Bangor).

Ynglŷn â'r gynhadledd

Bydd y gynhadledd ryngwladol a rhyngddisgyblaethol hon yn ystyried cyfraniad sain at gyfieithu barddoniaeth, ac at feysydd perfformiad ac ymarfer creadigol cysylltiedig. Pa mor ddefnyddiol yw geirfa gerddorol wrth drafod sain cerdd mewn cyfieithiad? I'r gwrthwyneb, beth a olygir pan fyddwn yn disgrifio cerddoriaeth fel iaith? A ellir cymharu'r berthynas rhwng y bardd a'r cyfieithydd â'r berthynas rhwng cyfansoddwr a pherfformiwr? Defnyddir cyfatebiaethau o'r fath i edrych ar farddoniaeth mewn cyd-destunau dwyieithog, amlieithog ac ar draws y celfyddydau Gan edrych ar y rhyngwynebau newydd rhwng barddoniaeth, sain a chyfieithu, bydd y gynhadledd hon yn dod â beirdd, cerddorion, beirniaid a chyfieithwyr at ei gilydd.

Mae cyfieithu, a ystyrir fel dull penodol o fynegi gwybodaeth yn hytrach na dull o gyfathrebu, yn gofyn am ffurfiau penodol ar wrando. Mae sŵn, yn yr ystyr o agor sianeli lluosog, wedi ei gysylltu'n agos â'r gofod amlieithog creadigol sy'n ymddangos yn y weithred o gyfieithu, ond mae trosglwyddo'r cyfieithu hefyd yn awgrymu ffin rhwng sianeli glân y gwahanol ieithoedd. Mae cysyniadau traddodiadol o gyfieithu yn aml yn seiliedig ar gysyniadau geiriol sy'n gweithredu trwy rythm a mwyseiriau, fel 'traduttore traditore', tra bod y datganiad a briodolir i Robert Frost, 'poetry is what is lost in translation', yn cymryd ei farn am farddoniaeth fel 'the sound of sense,' yn ganiataol,  hynny yw, ymdeimlad cyffredin o rythmau'r iaith Saesneg. Ond caiff iaith ei chlywed yn wahanol pan na chymerir yn ganiataol ei bod yn gyffredin i bawb. Pa gysylltiadau newydd rhwng ieithoedd sy'n bosib o fewn cwmpas ymarfer barddonol a'i groestoriadau â chyfieithu a pherfformio?

Mae diddordeb yn y ffordd y mae barddoniaeth yn teithio'n rhyngwladol ar y glust, gan greu cysylltiadau ac etifeddiaeth sy'n cysylltu barddoniaeth ar draws ieithoedd yn sail i'r materion hyn, er enghraifft dylanwad perfformiadau Dada yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif ar farddoniaeth sain gyfoes. Mewn cyfnod o wleidyddiaeth ynysig, bydd y gynhadledd hon yn gofyn sut gallai croesfannau o'r fath ein helpu i ymgysylltu â chymunedau ieithyddol lluosog Ewrop gyfoes a thu hwnt.

Y gynhadledd hon yw'r trydydd digwyddiad a'r digwyddiad olaf yn y gyfres Barddoniaeth mewn Cyfieithiad Ehangach Rhwydwaith yr AHRC.

Dyma rai o'r siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau: Jennifer K. Dick (Université de Haute Alsace), Chris McCabe (National Poetry Library), Vahni Capildeo (Douglas Caster Cultural Fellow, Leeds University), Vincent Broqua (Université Paris 8), Lily Robert-Foley (Université Paul-Valéry, Montpellier), Carole Birkan-Berz (Université Sorbonne Nouvelle, Paris 3), Alys Conran (Prifysgol Bangor), Nia Davies (), Tim Atkins (Roehampton University), Philip Terry (University of Essex), Simon Smith (University of Kent).

Galwad am bapurau

Gwahoddir cynigion am bapurau beirniadol neu bapurau'n seiliedig ar ymarfer o 20 munud o hyd. Gallant ymdrin ag un neu fwy o'r cwestiynau canlynol neu unrhyw thema sy'n gysylltiedig â'r gynhadledd:

  • swyddogaeth sain wrth berfformio barddoniaeth mewn cyd-destunau dwyieithog ac amlieithog
  • sain wrth gyfieithu barddoniaeth
  • y berthynas rhwng cyfieithu a'r dimensiynau ecolegol o wrando
  • y cwestiynau gwleidyddol a godir gan foeseg gwrando drawsffiniol
  • ffyrdd y gallai ystyriaethau o sŵn greu dulliau newydd o wrando ar ieithoedd eraill
  • y berthynas rhwng barddoniaeth sain a chyfieithu
  • swyddogaeth cyfieithu wrth ddatgelu'r gwahanol ffyrdd y mae cerdd yn 'gwrando'
  • y mathau o wrando a chyfieithu sydd ar waith mewn darlleniad barddoniaeth
  • y berthynas rhwng barddoniaeth a geiriau caneuon
  • dulliau o ymdrin â pherfformio barddoniaeth a allai alluogi neu fynegi perthynas newydd rhwng ieithoedd
  • cydweithrediad rhwng beirdd a cherddorion neu artistiaid sain fel deialog rhyngddiwylliannol

Anfonwch grynodebau o 250 o eiriau at z.skoulding@bangor.ac.uk a j.hilson@roehampton.ac.uk erbyn 2 Ionawr 2018.