Barddoniaeth mewn Cyfieithiad Ehangach: Rhwydwaith AHRC 2017-2018

Gall cyfieithu ymddangos yn fater syml o drawsosod ieithoedd, ond mae cyfieithu barddoniaeth yn amlygu'r cymhlethdod a'r cyfoeth diddorol sy'n dod o'r rhyngwyneb rhwng gwahanol ieithoedd a diwylliannau. Mae iaith ei hun yn newid yn gyson, ac mae ffurfiau arbrofol ar farddoniaeth yn ymgorffori'r cysylltiadau cymhleth rhwng geiriau, ystyron a'r mannau y maent yn byw ynddynt. Wrth i farddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain ehangu posibiliadau gwahanol gyfryngau trwy ddarlleniadau, perfformiadau a gwyliau rhyngwladol, mae hefyd yn ehangu posibiliadau cyfieithu. Mae barddoniaeth wedi cylchredeg yn rhyngwladol erioed. Bydd y rhwydwaith yn herio'r farn gyffredinol am draddodiadau barddoniaeth uniaith ymreolus tra'n darganfod sut mae cyfnewid rhwng ieithoedd yn gweithio mewn termau artistig, a sut mae'n dod â nodweddion diwylliannol i'r amlwg.

Arbrofi ar draws ieithoedd

Bydd y rhwydwaith hwn yn dwyn ynghyd ymarferwyr a beirniaid barddoniaeth a chyfieithu gydag artistiaid gweledol a sain i ddarganfod ffyrdd newydd o greu a dehongli iaith ar draws ffurfiau celf a diwylliannau. Yng nghyd-destun Ewrop sy'n newid, bydd yn dadansoddi effaith traddodiadau arbrofol sy'n parhau i greu cysylltiadau rhwng gwahanol ieithoedd, a bydd yn darganfod ffyrdd newydd o gyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd amlieithog. Trwy ei gysylltiad â'r National Poetry Library yn y Southbank Centre, bydd yn gwahodd cyfranogiad gweithredol gan ddarllenwyr ac ymarferwyr barddoniaeth y tu hwnt i gyd-destunau academaidd. Er ei fod wedi ei leoli'n bennaf yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gyda ffocws arbennig ar Gymru a Ffrainc, mae'r rhwydwaith yn rhoi sylw i ddylanwadau di-Ewropeaidd a chyd-fodolaeth diwylliannau ac ieithoedd amrywiol. Ar adeg pan mae technolegau megis cyfieithu peirianyddol yn galluogi cyfathrebu, mae anghyfieithiadwyedd ymddangosiadol barddoniaeth yn ei gwneud yn destun hollbwysig i archwiliad creadigol a dealltwriaeth o wahaniaethau rhyngddiwylliannol.

Sut mae barddoniaeth yn teithio?

Nod y rhwydwaith yw darganfod sut mae barddoniaeth yn teithio'n rhyngwladol, trwy edrych ar gysylltiadau rhyngwladol a'r etifeddiaeth sy'n cysylltu barddoniaeth ar draws ieithoedd. Mae enghreifftiau'n cynnwys dylanwad perfformiadau Dada ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ar farddoniaeth sain gyfoes neu feirdd y DU ac America yn mabwysiadu gweithdrefnau mathemategol a ysbrydolwyd gan ysgrifenwyr Oulipo Ffrengig. Sut gallai'r gwrthgerhyntau hyn ymgysylltu â chymunedau ieithyddol lluosog Ewrop gyfoes? Sut mae hil, dosbarth a rhyw yn dylanwadu ar y cyfnewidiadau hyn mewn ymarfer arbrofol? Sut mae cydweithio'n cyfrannu at ddeialog rhyngddiwylliannol? Pa gwestiynau gwleidyddol a gânt eu codi gan foeseg cyfieithu trawsffiniol?

Ffurfiau gweledol mewn cyfieithiad

Sut mae ffurfiau gweledol yn cyfrannu at bontio rhwng ieithoedd? Bydd y rhwydwaith yn ystyried cydweithio rhwng beirdd ac artistiaid gweledol sy'n archwilio cyfatebiaeth o ran geiriau, ffurf a delwedd mewn cyfieithiad rhyng-semiotig, hynny yw, cyfieithu sy'n disodli systemau arwyddion neu ffurfiau celf yn hytrach nag un iaith yn cymryd lle un arall. Sut mae'r rhain, ynghyd â ffurfiau cymysgryw newydd a alluogir gan dechnolegau newydd, yn ehangu'r posibiliadau o ddeialog rhyngddiwylliannol? Mewn amgylchedd gweledol lle mae llawer o gystadleuaeth am sylw, beth sy'n arbennig am swyddogaeth barddoniaeth?

Sain mewn cyfieithiad

Bydd y gynhadledd olaf yn y gwanwyn yn 2018 yn archwilio swyddogaeth sain mewn cyfieithiad. Beth yw ystyr gwrando ar farddoniaeth mewn iaith arall? Mewn gwaith perfformio sy'n cyfuno gwahanol gyfryngau, beth yw'r cysylltiad rhwng cyfieithu a'r agweddau gwleidyddol, corfforol neu ecolegol ar wrando? Sut gallai ystyriaethau sŵn arwain at ffyrdd newydd o wrando ar ieithoedd eraill? Sut gall cyfieithu ddatgelu'r gwahanol ffyrdd y mae cerdd yn 'gwrando'? Pa mor ddefnyddiol yw cymhariaeth neu eirfa gerddorol wrth drafod sŵn cerdd mewn cyfieithiad? I'r gwrthwyneb, beth a olygir pan fyddwn yn siarad am gerddoriaeth fel iaith? A ellir cymharu'r berthynas rhwng y bardd a'r cyfieithydd â'r berthynas rhwng cyfansoddwr a pherfformiwr? Bydd y rhwydwaith yn ymchwilio i'r cwestiynau hyn a chwestiynau eraill, gan ddatblygu gwybodaeth newydd ynglŷn â dulliau o gyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd rhyngwladol cyfoes.